P-06-1340 Atal newid y terfynau cyflymder i 20mya ar 17eg Medi
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Benjamin James Watkins, ar ôl casglu cyfanswm o 21,919 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Nid yw'r penderfyniad hwn yn gynrychioliadol o'r farn gyhoeddus ehangach ac o'r herwydd, nid yw'n ddemocrataidd i weithredu'r newidiadau. Dylai newid i gyfreithiau ffyrdd ar y raddfa hon fod yn destun pleidlais lawer ehangach neu o bosibl fel rhan o refferendwm yng Nghymru ar y mater.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae'r defnydd o dwmpathau cyflymder a pharthau 20 mya mewn ardaloedd adeiledig a ger ysgolion yn arfer a dderbynnir yn gyffredinol er mwyn diogelu plant ac oedolion. Gallai lledu'r mesurau hyn arwain at gynnydd mewn achosion o “gythraul gyrru" ac ymddengys nad yw, ar hyn o bryd, yn ddim mwy na llif refeniw i bobl dalu dirwyon pan gânt eu dal yn goryrru (pan maen nhw'n teithio ar gyflymder diogel).
Nid wyf hyd yn hyn wedi gweld barn yn cefnogi'r newidiadau, rwyf wedi gofyn i lawer o bobl yn lleol ac wedi darllen y sylwadau a adawyd gan lawer o bobl ar-lein. Yr ymateb negyddol i'r newidiadau oedd yr ysgogiad i greu'r ddeiseb yma.
Bydd y newidiadau cyflymder newydd yn effeithio'n anghymesur ar amseroedd cymudo pobl sy'n teithio i’r gwaith ar y ffordd, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae'r rhan fwyaf o ffyrdd yn 30mya ar hyn o bryd ac nad oes ganddynt ffyrdd osgoi â chyfyngiadau cyflymder uwch.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Rhondda
· Canol De Cymru